1 Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â'n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd;
2 (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi'r bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda'r Tad, ac a eglurhawyd i ni;)
3 Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad, a chyda'i Fab ef Iesu Grist.
4 A'r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.