1 Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda'r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn:
2 Ac efe yw'r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.
3 Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef.
4 Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo.
5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef.
6 Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.
7 Y brodyr, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o'r dechreuad. Yr hen orchymyn yw'r gair a glywsoch o'r dechreuad.