15 Na cherwch y byd, na'r pethau sydd yn y byd. O châr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef.
16 Canys pob peth a'r sydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd, nid yw o'r Tad, eithr o'r byd y mae.
17 A'r byd sydd yn myned heibio, a'i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd.
18 O blant bychain, yr awr ddiwethaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw anghrist, yr awron hefyd y mae anghristiau lawer; wrth yr hyn y gwyddom mai'r awr ddiwethaf ydyw.
19 Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni: canys pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent gyda ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni.
20 Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bob peth.
21 Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un celwydd o'r gwirionedd.