16 Canys pob peth a'r sydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd, nid yw o'r Tad, eithr o'r byd y mae.
17 A'r byd sydd yn myned heibio, a'i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd.
18 O blant bychain, yr awr ddiwethaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw anghrist, yr awron hefyd y mae anghristiau lawer; wrth yr hyn y gwyddom mai'r awr ddiwethaf ydyw.
19 Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni: canys pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent gyda ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni.
20 Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bob peth.
21 Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un celwydd o'r gwirionedd.
22 Pwy yw'r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw'r Crist? Efe yw'r anghrist, yr hwn sydd yn gwadu'r Tad a'r Mab.