25 A hon yw'r addewid a addawodd efe i ni, sef bywyd tragwyddol.
26 Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich hudo.
27 Ond y mae'r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi; eithr fel y mae'r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y'ch dysgodd chwi, yr arhoswch ynddo.
28 Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo; fel, pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad.
29 Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, chwi a wyddoch fod pob un a'r sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei eni ohono ef.