3 Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef.
4 Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo.
5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef.
6 Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.
7 Y brodyr, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o'r dechreuad. Yr hen orchymyn yw'r gair a glywsoch o'r dechreuad.
8 Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a'r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu.
9 Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn.