16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.
17 Eithr yr hwn sydd ganddo dda'r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?
18 Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd.
19 Ac wrth hyn y gwyddom ein bod o'r gwirionedd, ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef.
20 Oblegid os ein calon a'n condemnia, mwy yw Duw na'n calon, ac efe a ŵyr bob peth.
21 Anwylyd, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw.
22 A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef.