20 Oblegid os ein calon a'n condemnia, mwy yw Duw na'n calon, ac efe a ŵyr bob peth.
21 Anwylyd, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw.
22 A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef.
23 A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni.
24 A'r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o'r Ysbryd a roddes efe i ni.