7 O blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn.
8 Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o'r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol.
9 Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.
10 Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a'r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nid yw yn caru ei frawd.
11 Oblegid hon yw'r genadwri a glywsoch o'r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd.
12 Nid fel Cain, yr hwn oedd o'r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn dda.
13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw'r byd yn eich casáu chwi.