1 Anwylyd, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i'r byd.
2 Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw: Pob ysbryd a'r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.
3 A phob ysbryd a'r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a'r awron y mae efe yn y byd eisoes.
4 Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a'u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw'r hwn sydd ynoch chwi na'r hwn sydd yn y byd.