11 Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.
12 Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom.
13 Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o'i Ysbryd.
14 A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i'r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i'r byd.
15 Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw.
16 A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau.
17 Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.