15 Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw.
16 A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau.
17 Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
18 Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A'r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad.
19 Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
20 Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd?
21 A'r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i'r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.