5 Hwynt-hwy, o'r byd y maent: am hynny y llefarant am y byd, a'r byd a wrendy arnynt.
6 Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni.
7 Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a'r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw.
8 Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw.
9 Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef.
10 Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.
11 Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.