7 Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a'r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw.
8 Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw.
9 Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef.
10 Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.
11 Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.
12 Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom.
13 Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o'i Ysbryd.