1 Pob un a'r sydd yn credu mai Iesu yw'r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a'r sydd yn caru'r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono.
2 Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef.
3 Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a'i orchmynion ef nid ydynt drymion.
4 Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu'r byd: a hon yw'r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu'r byd, sef ein ffydd ni.
5 Pwy yw'r hwn sydd yn gorchfygu'r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?
6 Dyma'r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A'r Ysbryd yw'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd.