13 Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.
14 A hyn yw'r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef.
15 Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.
16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i'r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono.
17 Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.
18 Ni a wyddom nad yw'r neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae'r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a'r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.
19 Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae'r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.