16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i'r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono.
17 Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.
18 Ni a wyddom nad yw'r neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae'r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a'r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.
19 Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae'r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.
20 Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw'r gwir Dduw, a'r bywyd tragwyddol.
21 Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.