3 Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a'i orchmynion ef nid ydynt drymion.
4 Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu'r byd: a hon yw'r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu'r byd, sef ein ffydd ni.
5 Pwy yw'r hwn sydd yn gorchfygu'r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?
6 Dyma'r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A'r Ysbryd yw'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd.
7 Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef; y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glân: a'r tri hyn un ydynt.
8 Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a'r gwaed: a'r tri hyn, yn un y maent yn cytuno.
9 Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab.