5 Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o'r dechreuad, garu ohonom ein gilydd.
6 A hyn yw'r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw'r gorchymyn; Megis y clywsoch o'r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo.
7 Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i'r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw'r twyllwr a'r anghrist.
8 Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.
9 Pob un a'r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae'r Tad a'r Mab ganddo.
10 Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho:
11 Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o'i weithredoedd drwg ef.