4 Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a'u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i'w cadw i farnedigaeth;
5 Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir;
6 A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a'u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i'r rhai a fyddent yn annuwiol;
7 Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid:
8 (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:)
9 Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i'w poeni:
10 Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas: