12 Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw'r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw.
13 Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a'r cariad sydd yng Nghrist Iesu.
14 Y peth da a rodded i'w gadw atat, cadw trwy'r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.
15 Ti a wyddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi; o'r sawl y mae Phygelus a Hermogenes.
16 Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesifforus; canys efe a'm llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i:
17 Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a'm cafodd.
18 Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus, gorau y gwyddost ti.