3 Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o'm rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd;
4 Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y'm llanwer o lawenydd;
5 Gan alw i'm cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd.
6 Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i.
7 Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll.
8 Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd â'r efengyl, yn ôl nerth Duw;
9 Yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a'i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, cyn dechrau'r byd,