1 Gwybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diwethaf.
2 Canys bydd dynion â'u serch arnynt eu hunain, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwiol,
3 Yn angharedig, yn torri cyfamod, yn enllibaidd, yn anghymesur, yn anfwyn, yn ddiserch i'r rhai da,
4 Yn fradwyr, yn waedwyllt, yn chwyddedig, yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw;
5 A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a'r rhai hyn gochel di.
6 Canys o'r rhai hyn y mae'r rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau,
7 Yn dysgu bob amser, ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd.