12 Ie, a phawb a'r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir.
13 Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo.
14 Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist;
15 Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy'r ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
16 Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder:
17 Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.