4 Yn fradwyr, yn waedwyllt, yn chwyddedig, yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw;
5 A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a'r rhai hyn gochel di.
6 Canys o'r rhai hyn y mae'r rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau,
7 Yn dysgu bob amser, ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd.
8 Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae'r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymeradwy o ran y ffydd.
9 Eithr nid ânt rhagddynt ymhellach: canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau.
10 Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hirymaros, cariad, amynedd,