1 Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy'r proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab;
2 Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd:
3 Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd;
4 Wedi ei wneuthur o hynny yn well na'r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy.
5 Canys wrth bwy o'r angylion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a'th genhedlais di? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab?
6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf‐anedig i'r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef.