6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf‐anedig i'r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef.
7 Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a'i weinidogion yn fflam dân.
8 Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di.
9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i'th gyfeillion.
10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd:
11 Hwynt‐hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant;
12 Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant.