1 Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o'n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a'r pechod sydd barod i'n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen ni;
2 Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle'r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw.
3 Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau.
4 Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod.
5 A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y'th argyhoedder ganddo: