11 Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr;
12 Gan ddywedyd, Myfi a fynegaf dy enw di i'm brodyr; yng nghanol yr eglwys y'th folaf di.
13 A thrachefn, Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo. A thrachefn, Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi.
14 Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o'r un pethau; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, diafol;
15 Ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed.
16 Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion; eithr had Abraham a gymerodd efe.
17 Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i'w frodyr; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau y bobl.