1 Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o'r galwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu;
2 Yr hwn sydd ffyddlon i'r hwn a'i hordeiniodd ef, megis ag y bu Moses yn ei holl dŷ ef.
3 Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na'r tŷ.
4 Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw.
5 A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i'r pethau oedd i'w llefaru;
6 Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd.
7 Am hynny, megis y mae'r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef,