10 Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i:
11 Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i'm gorffwysfa.
12 Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw.
13 Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod.
14 Canys fe a'n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd;
15 Tra dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad.
16 Canys rhai, wedi gwrando, a'i digiasant ef: ond nid pawb a'r a ddaethant o'r Aifft trwy Moses.