5 A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i'r pethau oedd i'w llefaru;
6 Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd.
7 Am hynny, megis y mae'r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef,
8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch:
9 Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd.
10 Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i:
11 Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i'm gorffwysfa.