1 Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i'w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl.
2 Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant.
3 Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i'm gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.
4 Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd.