10 Canys yr hwn a aeth i mewn i'w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau.
11 Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i'r orffwysfa honno, fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth.
12 Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r ysbryd, a'r cymalau a'r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau'r galon.
13 Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i'w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn.
14 Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes.
15 Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda'n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod.
16 Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.