13 Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i'w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn.
14 Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes.
15 Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda'n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod.
16 Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.