4 Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd.
5 Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i'm gorffwysfa i.
6 Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth;
7 Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.
8 Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall.
9 Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw.
10 Canys yr hwn a aeth i mewn i'w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau.