4 Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron.
5 Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a'th genhedlais di.
6 Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.
7 Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i'w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd;
8 Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd‐dod trwy'r pethau a ddioddefodd:
9 Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i'r rhai oll a ufuddhant iddo;
10 Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.