1 Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw,
2 I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylo, ac atgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol.
3 A hyn a wnawn, os caniatâ Duw.
4 Canys amhosibl yw i'r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o'r Ysbryd Glân,