8 Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymeradwy, ac agos i felltith; diwedd yr hon yw, ei llosgi.
9 Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn.
10 Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith, a'r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i'r saint, ac ydych yn gweini.
11 Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd:
12 Fel na byddoch fusgrell, eithr yn ddilynwyr i'r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu'r addewidion.
13 Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun,
14 Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio y'th fendithiaf, a chan amlhau y'th amlhaf.