1 Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i'r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chysegr bydol.
2 Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a'r bwrdd, a'r bara gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr.
3 Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf;
4 Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a'r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau'r cyfamod:
5 Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi'r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.