16 Oblegid lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr.
17 Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym: oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo'r testamentwr yn fyw.
18 O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed.
19 Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a'i taenellodd ar y llyfr a'r bobl oll,
20 Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi.
21 Y tabernacl hefyd a holl lestri'r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd.
22 A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.