18 O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed.
19 Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a'i taenellodd ar y llyfr a'r bobl oll,
20 Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi.
21 Y tabernacl hefyd a holl lestri'r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd.
22 A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.
23 Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau'r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â'r pethau hyn; a'r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn.
24 Canys nid i'r cysegr o waith llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni: