24 Canys nid i'r cysegr o waith llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni:
25 Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis y mae'r archoffeiriad yn myned i mewn i'r cysegr bob blwyddyn, â gwaed arall:
26 (Oblegid yna rhaid fuasai iddo'n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun.
27 Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn:
28 Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i'r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.