3 Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf;
4 Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a'r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau'r cyfamod:
5 Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi'r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.
6 A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw:
7 Ac i'r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi'r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto'i hun, a thros anwybodaeth y bobl.
8 A'r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, nad oedd y ffordd i'r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai'r tabernacl cyntaf yn sefyll:
9 Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio'r addolydd;