16 Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch.
17 Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth.
18 O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o'i greaduriaid ef.
19 O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint:
20 Canys digofaint gŵr nid yw'n cyflawni cyfiawnder Duw.
21 Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.
22 A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.