8 Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.
9 Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth:
10 A'r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe.
11 Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yn ei ffyrdd.
12 Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i carant ef.
13 Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y'm temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb.
14 Canys yna y temtir pob un, pan ei tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun.