12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid.
13 Canys barn ddidrugaredd fydd i'r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.
14 Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef?
15 Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth,
16 A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau'r corff; pa les fydd?
17 Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig.
18 Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau.