19 Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu.
20 Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw?
21 Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor?
22 Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio.
23 A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef.
24 Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig.
25 Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi'r cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall?