1 Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr: gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy.
2 Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno'r holl gorff hefyd.
3 Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau'r meirch, i'w gwneuthur yn ufudd i ni; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch.
4 Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno'r llywydd.
5 Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn!