15 A gweddi'r ffydd a iachâ'r claf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo.
16 Cyffeswch eich camweddau bawb i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y'ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi'r cyfiawn.
17 Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau, ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law: ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis.
18 Ac efe a weddïodd drachefn; a'r nef a roddes law, a'r ddaear a ddug ei ffrwyth.
19 Fy mrodyr, od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef;
20 Gwybydded, y bydd i'r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angau, a chuddio lliaws o bechodau.